~ Amdanon Ni ~

Zwzaz - about the trio

Zwzaz - gwybodaeth am y triawd

Zwzaz is a trio with a difference. With a unique blend of Harp, Trumpet/Flugel and Double Bass bringing a fresh new sound to jazz. Playing familiar and lesser known tunes from the jazz repertoire along with original compositions, they capture audiences form the concert stage to the late night jazz clubs. Cris, in his compositions,fuses jazz with the Cerdd Dant tradition of Welsh music or even earlier styles as found in the ap Huw manuscripts of 1613. It is sound that has become uniquely Zwzaz!

Trio gyda gwahaniaeth yw Zwzaz. Mae ein cyfuniad unigryw o'r Delyn, yr Utgorn/Flugel a'r Basgrwth yn dod â sain newydd a ffres i jazz. Rydym yn chwarae alawon cyfarwydd ynghyd â rhai llai adnabyddus o fyd jazz, yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol. Mae dylanwad traddodiad Cerdd Dant i'w glywed ar rai o'r cyfansoddiadau hyn, neu hyd yn oed moddau o oes cynharach megis rhai sydd i'w cael yn yn llawysgrifau ap Huw o'r flwyddyn 1613.

Cris Haines

Biography of Cris:

Hanes bywyd Cris:

Astudiodd Cris yr utgorn yng Ngholeg Celf Llundain, ac yn ystod y tair blynedd a dreuliodd yno bu’n chwarae ac yn recordio gyda’r canwr soul Lee Kosmin ar gyfer cwmni Polydor, yn ogystal â pherfformio gyda rhychwant amrywiol o fandiau.

Wedi iddo ddychwelyd i Gymru bu ymhlith aelodau sefydlu’r Blues Bunch, y band cyntaf yng ngwledydd Prydain i ymgofrestru’n swyddogol fel cydweithfa, a deithiodd ledled Ewrop mewn bws wedi’i addasu. Ym 1995 comisiynwyd Cris i gyfansoddi cyfres gerddorol ar gyfer y Delyn, yr Utgorn a’r Basgrwth fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Llên Abertawe, a’i pherfformio gyda rhagflaenydd y triawd presennol.

Ar hyn o bryd mae’n aelod o’r Mojo Soul Band, y band teyrnged Booze Bros, ac Ensemble Jazz Abertawe. I’r Ensemble hwn yr addasodd Suite Dylan gan y bianyddes Jen Wilson, ar achlysur hannercanmlwyddiant marwolaeth y bardd. Mae Cris hefyd yn dysgu Jazz a chyrsiau miwsig eraill ar gyfer Adran Addysg Oedolion Prifysgol Abertawe.


Amanda Whiting

Biography of Amanda:

Hanes bywyd Amanda:

Mae Amanda ymhlith y telynorion ifanc mwyaf cyffrous sydd yng ngwledydd Prydain heddiw. Mae ei chymeriad bywiog a’i doniau cerddorol helaeth yn golygu bod galw mawr amdani bob amser.

Ganwyd Amanda yng Nghaerdydd, a dechreuodd astudio’r delyn yn chwe blwydd oed. Aeth ymlaen i Ysgol Gerdd Cadeirlan Wells, a hi oedd y delynores gyntaf yno i ennill ysgoloriaeth fel cerddor arbenigol. Enillodd hi gystadleuaeth yn adran yr unawd i delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1995 ac Ysgoloriaeth Goffa Nansi Richards. Canlynodd arni â’i hastudiaethau gyda Caryl Thomas ym Mhrifysgol Caerdydd, lle’r enillodd Radd BMus Anrhydedd a Diploma LRSM.

Mae Amanda wedi ymddangos ar y teledu ym Mhrydain a Siapan ac ar rwydwaith Sky. Mae hi wedi perfformio ar sawl llong mordeithio ac o flaen y Tywysog Siarl, yr Archesgob Desmond Tutu ac Archesgob Caergrawnt. Cafodd ei derbyn ar gyfer cynllun 'Live Music Now!' y diweddar Arglwydd Menuhin ym mis Mawrth 2000 a gwneud ei début yn Ystafelloedd Purcell, Llundain yn 2002 ac yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda Joanne Thomas ym mis Ionawr 2003.

Yn 2004, tra’n chwarae gyda’r artist jazz Jamie Cullum, fe ddaeth i sylw’r eicon pop Dannii Minogue, ac ym mis Medi 2006 fe wahoddodd Dannii Amanda i addasu a recordio ei chân Nadolig 'I'll be home Home for Christmas', fydd yn cael ei rhyddhau yn Awstralia.

Mae Amanda wrth ei bodd yn chwarae rhychwant tra eang o arddulliau cerddorol – gan gynnwys miwsig traddodiadol, clasurol, jazz a phop. Ar hyn o bryd Amanda yw telynores breswyl Cyrchfan Wyliau’r Faenor Geltaidd yng Nghasnewydd, lle y bydd cystadlaethau golff Cwpan Ryder yn cael eu cynnal yn 2010.


Donnie Sweeney

Biography of Donnie:

Hanes bywyd Donnie:

Cafodd Donald ‘donnie joe’ Sweeney ei eni yn ninas Portland, Oregon a’i fagu yn Ne Califfornia. Daeth i gysylltiad â cherddoriaeth yn ifanc iawn diolch i wersi piano Suzuki. Fe’i dysgodd ei hun i chwarae’r gitâr, a chafodd ei brofiad cyntaf o fyd jazz trwy ei frawd hŷn.

Ym 1993 fe aeth i Goleg y Coed Cochion yng Ngogledd Califfornia i astudio’r bas. Dan gyfarwyddiaeth y Dr. Jerry Moore bu’n chwarae’r piano yn y Big Band, dan arweiniad y trombonydd Frank ‘Dr Bone’ Brown, ac astudiodd yr utgorn a’r sacsoffon. Mae wedi perfformio hefyd gyda band Ed Macan ‘Hermetic Science’ a chwarae ar eu CD cyntaf.

Ym 1997 fe ymunodd â rhaglen Astudiaethau Jazz Seattle ym Mhrifysgol Talaith Washington. Yno y cafodd ei lysenw ‘donnie joe’ gan Marc Seales, ei fentor a phennaeth Astudiaethau Jazz. Yno hefyd y newidiodd o’r bas trydanol at y basgrwth neu ddwbl bas, dan gyfarwyddyd y basydd jazz Doug Miller. Fe astudiodd hefyd gyda’r basgrwthydd byd-enwog Barry Lieberman. Rhoes yr UW gyfle iddo i astudio gyda phobl megis Jay Thomas (utgorn), Julian Priester (trombôn), Larry Coryell (gitâr), Rufus Reid (bas), Jessica Williams (piano), Dave Friesen (bas), Kenny Werner (piano), John Patitucci (bas), Billy Taylor (piano), Chip Jackson (bas), Conrad Herwig (trombôn), John Clayton (bas), a neb llai na brenin holl faswyr y bydysawd, y diweddar Ray Brown. Graddiodd Donnie yn 2002 â gradd BA mewn Cerddoriaeth a BM ym Mherfformiad Astudiaethau Jazz (Dwbl Bas).

Cyrhaeddodd Donnie Dde Cymru yn 2003, a chyn hir yr oedd yn gweithio’n rheolaidd ar y sîn jazz lleol. Yn 2004 fe ymunodd â Band Keith Little, ac ers cyrraedd gwledydd Prydain mae wedi chwarae gyda Linda Gail Lewis a band yr adlonydd Mike Doyle. Cymerodd ran yn hysbyseb BBC Cymru ar gyfer Gŵyl Jazz Rhyngwladol Aberhonddu 2004, perfformiodd gyda thriawd Richard Harris ar sioe Chris Evans ar ITV 1, “OFI Sunday”, ac mae wedi ymddangos ar y cyfryngau sawl gwaith yng nghwmni’r gantores newydd addawol Rhian Grundy. Mae wedi teithio eisoes ar draws gwledydd Prydain, gan ymweld â’r Almaen hefyd i gymryd rhan mewn gwyliau miwsig, a chwarae ar achlysur y frenhines yn Rhufain.